1 Rhowch i’r Arglwydd, a rhowch yn chwyrn,chwi blant y cedyrn, foliant:Cydnabyddwch ei barch, a’i nerth,mor brydferth, a’i ogoniant.
2 Rhowch i enw yr Arglwydd glod,heb orfod mwy mo’ch cymmell,Addolwch Arglwydd yr holl fyd:mor hyfryd yw ei Babell!
3 Llais yr Arglwydd sydd uwch dyfroedd,Duw cryf pair floedd y daran.Uwch dyfroedd lawer mae ei drwn,nid yw ei swn ef fychan.
4 Llais yr Arglwydd, pan fytho llym,a ddengys rym a chyffro:A llais yr Arglwydd a fydd dwys,fel y bo cymwys gantho.
5 Llais yr Arglwydd a dyr yn fâny Cedrwydd hirlân union,Yr Arglwydd a dyr, yn uswydd,y Cedrwydd o Libânon.
6 Fel llwdn unicorn neu lo llonfe wna’i Libanon lammu,
7 A Sirion oll: llais ein Ior glâna wna’i fflam dân wasgaru.