4 Llais yr Arglwydd, pan fytho llym,a ddengys rym a chyffro:A llais yr Arglwydd a fydd dwys,fel y bo cymwys gantho.
5 Llais yr Arglwydd a dyr yn fâny Cedrwydd hirlân union,Yr Arglwydd a dyr, yn uswydd,y Cedrwydd o Libânon.
6 Fel llwdn unicorn neu lo llonfe wna’i Libanon lammu,
7 A Sirion oll: llais ein Ior glâna wna’i fflam dân wasgaru.
8 Llais yr Arglwydd, drwy ddyrys lyn,a godai ddychryn eres:Yr Arglwydd a wna ddychryn fflwchdrwy holl anialwch Cades.
9 Llais yr Arglwydd y piau’r glod,pair i’r ewigod lydnu:Dinoetha goed: iw deml iawn ywi bob rhyw ei foliannu.
10 Yr Arglwydd gynt yn bennaeth oedd,ar y llif-ddyfroedd cethrin:Yr Arglwydd fu, ef etto sydd,ac byth a fydd yn frenin.