3 Minnau, tra celwn i fy mai,yn hen yr ai ’mhibellion:A thrwy fy rhuad i bob dydd,cystuddio y bydd fy nghalon.
4 Dy law dithau, y dydd a’r nos,sydd drom drwy achos arnaf:Troi ireidd-dra fy esgyrn merfel sychder y gorphennaf.
5 Yna y trois innau ar gais,addefais fy anwiredd:
6 Tyst yn fy erbyn fy hun fum,maddeuaist y’m fy nghamwedd,
7 Amserol weddiau am hyn,a rydd pob glanddyn arnad:Rhag ofn mewn ffrydau dyfroedd maith,na chaer mo’r daith hyd attad.
8 Rhyw loches gadarn wyd i mi,rhag ing i’m cedwi’n ffyddlon:Amgylchyni fy fi ar led,â cherdd ymwared gyson.
9 Dithau (o ddyn) dysg geni fiy ffordd y rhodi’n wastad,Mi a’th gynghoraf di rhag drwg,y mae fy ngolwg arnad.