1 Wrth gamwedd dyn annuwiol surmae’n eglur yn fy nghalon,Nad oes ofn Duw, na’i farn,na’i ddrwgo flaen ei olwg trowsion.
2 Mae yn cyd ddwyn â’i fai ei hun,ni wyl mo’i wrthun drosedd:Nes cael yn eglur i’r holl fydei gâs wyd, a’i anwiredd.
3 Os ei ymadrodd, mae heb wir,ei enau dihir hydwyll,Ni fyn wneuthur dim da ychwaith,yr adyn diffaith dibwyll.
4 Ef yn ei wely ni chais hun,ond gosod llun ar gelwydd:Os yn effro, neu yn ei waith,ni ochel daith annedwydd.
5 Dy drugaredd (fy Arglwydd Ion)sydd hyd eithafon nefoedd:A'th wirionedd di sydd yn gwau,hyd y cymylau dyfroedd.
6 Dy uniondeb fel mynydd mawr,dy farn fel llawr yr eigion.Dy nerth fyth felly a barhâ,i gadw da, a dynion.
7 O mor werth fawr (fy Arglwydd Dduw)i bawb yw dy drugaredd!I blant dynion da iawn yw bodynghysgod dy adanedd.