8 Cyflawn o frasder yw’r ty tau,lle lenwir hwythau hefyd.Lle y cânt ddiod gennyt Ion,o flasus afon hyfryd.
9 Gyda thi mae y loywffrwd hon,a dardd o ffynnon einioes:A'th deg oleuni, ac â’th râd,y cawn oleuad eisoes.
10 O ystyn etto i barhau,dy drugareddau tirion:Ni a’th adwaenom di, a’th ddawn,i’r rhai sydd uniawn galon.
11 O Dduw im’ herbyn i na ddoed,na ffyrdd, na throed y balchffol,A llestair attaf, fel na ddaw na gwaith,na llaw’r annuwiol.
12 Felly y syrthiodd gynt, yn wir,y rhai enwir a’r drygwaith,Felly gwthiwyd i lawr hwyntwy,heb godi mwy yr eilwaith.