1 Fy Arglwydd, na cherydda fi,ym mhoethni dy gynddaredd:Ac na chosba fi yn dy lidoblegid fy enwiredd.
2 Cans glyn dy saethau ynof fi,a phennau’r rheini’n llymion:A dodaist arnaf y llaw dau,a rhoist ddyrnodiau trymion.
3 Nid oes mo’r iechyd gan dy lid,i’m cnawd, ond gofid creulon:Ac nid oes (gan fy mhechod chwyrn)mor hedd i’m hesgyrn sychion.
4 Cans fy nghamweddau aent i’r nen,a thros fy mhen tyfasant:Un wedd a baich rhy drwm o bwysfal hyn mor ddwys i’m llethant.