1 Addewais gadw ’ngenau’n gu,rhag pechu yn fy ngeiriau,
2 Y dyn annuwiol lle y bobwriedais ffrwyno ’ngenau.
3 Tewais, tewais fel y dyn mud,rhag dwedud peth daionus,Pan y cyffroais o hir ddal,ymattal oedd ofidus.
4 Yn fy nghalon y cododd gwres:a’m mynwes o’m myfyrdod,Fel y tân ynynnu a wnaeth,a rhydd yr aeth fy’ nhafod.
5 O dangos ym’ (fy Arglwydd ner)pa amser y diweddafRifedi ’nyddiau: a pha hydo fewn y byd y byddaf.