4 Yn fy nghalon y cododd gwres:a’m mynwes o’m myfyrdod,Fel y tân ynynnu a wnaeth,a rhydd yr aeth fy’ nhafod.
5 O dangos ym’ (fy Arglwydd ner)pa amser y diweddafRifedi ’nyddiau: a pha hydo fewn y byd y byddaf.
6 Rhoddaist fy nyddiau fel lled llaw,i’m heinioes daw byr ddiwedd.Diau yn d’ olwg di (o Dduw)fod pob dyn byw yn wagedd.
7 Sef mewn cysgod y rhodia gwr,dan gasglu pentwr ofer,Odid a wyr wrth dyrru dapwy a’i mwynha mewn amser.
8 Beth bellach a obeithiaf fi,Duw rhois i ti fy nghalon.
9 Tyn fi o’m camweddau yn rhydd,nâd fi’n wradwydd i ffolion.
10 Yn fudan gwael yr aethym i,a hyn tydi a’i parodd: