2 Cododd fyfi or pydew blin,a’r pridd tra gerwin tomlyd:A rhoes ar graig fy nhroed i wau,a threfn fy nghamrau hefyd.
3 A newydd gerdd i’m genau rhoes,clod iddo troes yn hylwydd.
4 Pawb ofnant pan y gwelant hyn,a chredan yn yr Arglwydd.
5 Pob gwr yn ddiau dedwydd ywa rotho ar Dduw ei helynt:A’r beilch, a’r ffeils a’r chwedlan tronid edrych efo arnynt.
6 Aml (o Dduw) yw y gwrthiau tau,fel dy feddyliau ynny:A heb un dyn yn dysgu i ti,nac yn blaenori hynny.
7 Y rhai pe y ceisiwn i drwy gred,eu rhoi ar led, a’i canu,Mwy amlach ydynt nag y gallun dyn heb pall eu traethu.
8 Ni fynnaist offrwm rhodd, na gwerth,na chwaith un aberth cennyf:Er hyn fy nghlustiau i mewn pryd,hwy a egoryd ymy.