6 Aml (o Dduw) yw y gwrthiau tau,fel dy feddyliau ynny:A heb un dyn yn dysgu i ti,nac yn blaenori hynny.
7 Y rhai pe y ceisiwn i drwy gred,eu rhoi ar led, a’i canu,Mwy amlach ydynt nag y gallun dyn heb pall eu traethu.
8 Ni fynnaist offrwm rhodd, na gwerth,na chwaith un aberth cennyf:Er hyn fy nghlustiau i mewn pryd,hwy a egoryd ymy.
9 Hyn pan wrthodaist dwedais i,Duw wele fi yn dyfod
10 Megis o honof mae gwir puryn dy ysgrythur hynod.
11 Y rhyngwn i dy fodd yn llawn,(o Dduw) rwy’ ’n fodlawn ddigon,Dy ewyllys di a’th lân ddeddfsy’n greddf yn nautu’r galon.
12 Mi a bregethais dy air cuynghanol llu mawr anian.Ac ni thawaf (fy’ Arglwydd gwyn)ti wyddost hyn dy hunan.