1 Gwyn ei fyd yr ystyriol frawd,a wnel a’r tlawd syberwyd.Yr Arglwydd ystyriol o’r nefa’i ceidw ef rhag drygfyd.
2 Duw a’i ceidw, a byw a fyddyn ddedwydd yn ddaiarol:O na ddyro efo yn rhoddwrth fodd y rhai gelynol.
3 Yn ei wely pan fo yn glafrhydd y Goruchaf iechyd:A Duw a gweiria oddi fryei wely yn ei glefyd.
4 Dywedais innau yna’n rhwydd,dod f’Arglwydd dy drugaredd,Iachâ di’r dolur sy dan fais,lle y pechais mewn anwiredd.
5 Traethu y gwaethaf a wnâi’ nghâsamdanaf, atcas accen:Pa bryd y bydd marw y gwan,a’i enw o dan yr wybren?
6 Os daw i’m hedrych, dywaid ffug,dan gasglu crug iw galon,Ac a’i traetha pan el i ffwrddi gyfwrdd a’i gyfeillion.