2 Sef y cenhedloedd tynnaist hwy,a’th bobl yn fwyfwy plennaist.Llâdd estroniaid heb ado un,a’th bobl dy hun a gedwaist.
3 Cans nid â’i cledd eu hun yn wir,y cowsant dir na thyddyn,Nid â nerth eu breichiau yn fflwch,y cadwyd heddwch iddyn:Ond dy law ddeau, a’th fawr nerth,a’th olwg prydferth effro,O herwydd yt’ eu hoffi: hyna barodd iddyn lwyddo.
4 Ti Dduw, fy mrenin ydwyd: oDuw, pâr i Jago lwyddiant:
5 Lladdwn a sathrwn yn d’enw diy rheini a’n cassaant.
6 Nid yn fy mwa mae fy ngrym,na’m cleddyf llym f’amddiffyn,
7 Ond tydi Dduw, achubaist fi,a rhoist warth fri i’r gelyn.
8 Am hynny molwn di bob dydd,cai yn dragywydd fowredd.Canwn i’th enw gerdd gan dant,o glod a moliant ryfedd.