6 Nid yn fy mwa mae fy ngrym,na’m cleddyf llym f’amddiffyn,
7 Ond tydi Dduw, achubaist fi,a rhoist warth fri i’r gelyn.
8 Am hynny molwn di bob dydd,cai yn dragywydd fowredd.Canwn i’th enw gerdd gan dant,o glod a moliant ryfedd.
9 Ond ti a giliaist ymaith beth,daeth arnom feth a gwradwydd:Nid ait ti allan gyd â’u llu,cyfagos fu i dramgwydd.
10 Gwnaethost i nyni droi heb drefn,ein cefn at y gelynion.Felly yr aeth ein da o’n gwladyn sclyfiad i’n caseion.
11 Rhoist ni yn fwyd (fel defaid gwâr)ar wasgar i’r cenhedloedd.
12 A gwerthaist dy bobl ar bris bach,nid hyttrach dy oludoedd.