8 Am hynny molwn di bob dydd,cai yn dragywydd fowredd.Canwn i’th enw gerdd gan dant,o glod a moliant ryfedd.
9 Ond ti a giliaist ymaith beth,daeth arnom feth a gwradwydd:Nid ait ti allan gyd â’u llu,cyfagos fu i dramgwydd.
10 Gwnaethost i nyni droi heb drefn,ein cefn at y gelynion.Felly yr aeth ein da o’n gwladyn sclyfiad i’n caseion.
11 Rhoist ni yn fwyd (fel defaid gwâr)ar wasgar i’r cenhedloedd.
12 A gwerthaist dy bobl ar bris bach,nid hyttrach dy oludoedd.
13 Rhoist ni yn watwar (o Dduw Ion)i’n cymdogion gwrthrym:A diystyrwch oll a gwarthi bawb o bobparth ydym.
14 Dodaist ni yn ddihareb chwithymhlith yr holl genhedloedd,Ac yn arwydd i ysgwyd pen,a choeg gyfatcen pobloedd.