4 Dinas Duw lle llawen a fydd,cyfagos glennydd afon,Cyssegr preswylfa y rhad,gan ddyfal rediad Cedron.
5 Duw sydd yn trigo o’i mewn hinid âd hi ’scogi unwaith:Duw a’i cymyrth ar y wawr ddydd,a phreswylfeydd perffaith.
6 Y cenhedloedd pan fyddent ddig,a ffyrnig y tyrnesydd,Toddai y ddaiar o’i flaen efpam glywid llef Duw ddofydd.
7 Y mae yr Arglwydd gydâ ni,Ior anifeiri’y lluoedd:Y mae Duw Jago yn ein plaid,gyr help wrth raid o’r nefoedd.
8 Y wlad, o dowch i gyd yn rhwydd,a gwaith yr Arglwydd gwelwch,Y modd y gosododd ef ary ddaiar anniddanwch.
9 Gwna i ryfeloedd beidio’n wârhyd eitha’r ddaiar lychlyd:Dryllia y bwa, tyr y ffon,llysg y cerbydon hefyd.
10 Peidiwch, gwybyddwch mai fi yweich unig Dduw a’ch gwanar,Ymysg cenhedloedd mi ’a gâf barch,a’m cyfarch ar y ddaiar.