1 Mawr ei enw’n ninas ein Duw,a hynod yw yr Arglwydd:A’i drigfan ef yno y sydd,ym mynydd ei sancteiddrwydd.
2 Tegwch bro, a llawenydd gwlâd,yw Seion lathriad fynydd,Yn ystlysau y gogledd lawr,tre’r brenin mawr tragywydd.
3 Adweinir Duw ’mhalasau honyn gymorth digon hynod.
4 Ac wele nerth brenhinoedd byddoent yno i gyd-gyfarfod.
5 A phan welsant, rhyfedd a fu,ar frys brawychu rhagor.