11 Pob aderyn erbyn ei ben,a adwen ar y mynydd.Pob da maesydd, y lle y maen,y maent o’m blaen i beunydd.
12 Nid rhaid ym’ ddangos i ti hyn,pe delai newyn arnaf,Ac yn eiddo fi yr holl fyd,a’i dda i gyd yn llownaf.
13 A’i cig y teirw fydd fy mwyd? na thyb:nid wyd ond angall:Ai gwaed hyfrod fydd fy niod?dysg o newydd ddeall.
14 Dod dy oglud ar Dduw yn drwm,a thal yr offrwm pennaf:Cân ei fawl ef: a dod ar ledd’adduned i’r Goruchaf:
15 Galw arnaf yn dy ddydd blin,yno cai fi’n waredydd.Yno y ceni i mi glodam droi y rhod mor ddedwydd.
16 Duw wrth yr enwir dywaid hyn:ai ti perthyn fy neddfau?Paham y cym’ri di, na’m clod,na’m hamod yn dy enau?
17 Sef, cas fu gennyt ti iawn ddysgac addysg ni chymeraist:A’m geiriau i (fel araith ffol)i gyd o’th ol a deflaist.