8 Ni chai di am yr ebyrth tau,na’th boeth offrymau gerydd:Nac am na baent hwy gar fy mron,y cyfryw roddion beunydd.
9 Ni chymeraf o’th dy un llo,na hyfr a fo’n dy gorlan,
10 Mi biau’r da’n y maes sy’n gwauar fil o frynniau allan.
11 Pob aderyn erbyn ei ben,a adwen ar y mynydd.Pob da maesydd, y lle y maen,y maent o’m blaen i beunydd.
12 Nid rhaid ym’ ddangos i ti hyn,pe delai newyn arnaf,Ac yn eiddo fi yr holl fyd,a’i dda i gyd yn llownaf.
13 A’i cig y teirw fydd fy mwyd? na thyb:nid wyd ond angall:Ai gwaed hyfrod fydd fy niod?dysg o newydd ddeall.
14 Dod dy oglud ar Dduw yn drwm,a thal yr offrwm pennaf:Cân ei fawl ef: a dod ar ledd’adduned i’r Goruchaf: