16 Cans Aberth ni’s ceisi,ac ni fynni offrwm poeth:Pe y mynasyt cowsyt hyn,nid rhaid yt dderbyn cyfoeth.
17 Aberthau Duw i gyd,yw yspryd pur drylliedig,Ac ni ddistyri (o Dduw Ion)y galon gystuddiedig.
18 Bydd dda wrth Seion fryn,o Arglwydd, hyn a fynni,Ac wrth Gaersalem dy dretâd,a gwna adeilad arni.
19 Cei aberth iownedd coeth,cei offrwm poeth yn rhagor,Cei aberth llosg, a bodlon fych,cei fustych ar dy allor.