3 Cans adwen fy nghamwedd,a’m brwnt anwiredd yssig,Sef beunydd maent gar fy mron i,
4 Yn d’erbyn di yn unig,Y gwneuthym hyn oedd ddrwgyn dy lan olwg distrych,Fel i’th gyfiowner yn ol d’air,yn burair pan y bernych.
5 Mewn pechod lluniwyd fi,ac mewn drygioni dygas,Felly yr wyf o groth fy mamyn byw bob cam yn atgas.
6 Ac wele ceri’r gwiro fewn y gywir galon.Am hyn dysgaist ddoethineb iachy’m o’th gyfrinach ffyddlon.
7 Ag Isop golch fi’n lan,ni byddaf aflan mwyach,Byddafi o’m golchi mal hyn,fel eira gwyn neu wynnach.
8 Par i mi weled hedd,gorfoledd, a llawenydd,I adnewyddu f’esgyrn ia ddrylliaist di a cherydd.
9 O cuddia d’wyneb-prydrhag fy mhechodau i gyd,Fy anwireddau tyn eu lliw,o Arglwydd bid wiw gennyd.