6 Ac wele ceri’r gwiro fewn y gywir galon.Am hyn dysgaist ddoethineb iachy’m o’th gyfrinach ffyddlon.
7 Ag Isop golch fi’n lan,ni byddaf aflan mwyach,Byddafi o’m golchi mal hyn,fel eira gwyn neu wynnach.
8 Par i mi weled hedd,gorfoledd, a llawenydd,I adnewyddu f’esgyrn ia ddrylliaist di a cherydd.
9 O cuddia d’wyneb-prydrhag fy mhechodau i gyd,Fy anwireddau tyn eu lliw,o Arglwydd bid wiw gennyd.
10 Duw, crea galon bur,dod i mi gysur beunydd.I fyw yn well tra fwy’n y byd,dod ynof yspryd newydd.
11 O Dduw na ddyro chwaith,fi ymaith o’th olygon,Ac na chymer dy Yspryd glânoddiwrthif, druan gwirion,
12 Gorfoledd dwg i mi,drwy roddi ym dy iechyd:A chynnal a’th ysprydol ddawnfi, i fyw’n uniawn hefyd.