9 O cuddia d’wyneb-prydrhag fy mhechodau i gyd,Fy anwireddau tyn eu lliw,o Arglwydd bid wiw gennyd.
10 Duw, crea galon bur,dod i mi gysur beunydd.I fyw yn well tra fwy’n y byd,dod ynof yspryd newydd.
11 O Dduw na ddyro chwaith,fi ymaith o’th olygon,Ac na chymer dy Yspryd glânoddiwrthif, druan gwirion,
12 Gorfoledd dwg i mi,drwy roddi ym dy iechyd:A chynnal a’th ysprydol ddawnfi, i fyw’n uniawn hefyd.
13 A dysgaf dy fford wiri’r enwir, a’th addoliad:A phob pechadur try i’r iawn,a chyrch yn uniawn attad.
14 Rhag gwaed gwared fi Dduw,sef Duw fy iechydwriaeth:A’m tafod o’th gyfiawnder dia gân gerdd wirgi hyffraeth.
15 Duw, egor y min mau,â’m genau mi a ganaf,O Arglwydd, gerdd o’th fawl, a’th nerth,fal dyma’r Aberth pennaf.