1 Pa’m y rhodresi yn dy frâd,a’th ddrwg fwriad (o gadarn?)A maint trugaredd Duw bob dydd,ac felly bydd hyd dyddfarn.
2 Dychymyg drwg yw’r fyfyrdawd,a gwaith dy dafawd sceler,Hwn sydd fel ellyn llym o ddur,a’i swydd yw gwneuthur ffalsder.
3 Ni hoffaist dda, gwnaist ddrwg yn haws,a’r traws, yn fwy nâ’r union,
4 Hoffaist eiriau distryw a bâr,ti golyn twyllgar, creulon.
5 Duw a’th ddistrywia dithau byth,fo dyn dy chwyth o’th gaban:Ac a dyn dy wraidd di i gyd,o dir y bywyd allan.
6 Rhai a’i gwelant a arswydant,cans hwy a ydynt gyfion:A hwy a chwarddant am ei ben,pan welont ddilen greulon.
7 Gwelwch y gwr ni rodd yn ddwysar Dduw na’i bwys na’i oglud,Ond ar ddrygioni yn rhoi nerth,a rhif a gwerth ei olud.