1 Duw dy nawdd ym rhag marwol ddynhwn yn ei wyn a’m llyngcai:Sef ymryfelu a mi bydd,a beunydd i’m gorthrymmai.
2 Llyncent fi beunydd o dra châs,(dy râs o Dduw goruchaf)Rhai beilch rhy dynion maent yn lluyn poeth ryfelu arnaf.
3 Y dydd y bai mwyaf fy ofnrhown ynot ddofn ymddiried.
4 Molaf, credaf, nid ofnaf gnawd,doi yn ddidlawd i’m gwared.
5 Yn fy ymadrodd i fy hun,y ceisiant lun i’m maglu:Ac ar bob meddwl a phob troy maent yn ceisio ’nrygu.
6 Ymgasglu, llechu, dirgel hwyl,a disgwyl fy holl gerdded,Drwy ymfwriadu i mi loes,a dwyn i’m heinioes niwed.
7 A ddiangant hwy? Duw tâl y pwyth,dod iddynt ffrwyth f’enwiredd:Disgyn y bobloedd yn dy lid,Duw felly bid eu diwedd.