6 Ymgasglu, llechu, dirgel hwyl,a disgwyl fy holl gerdded,Drwy ymfwriadu i mi loes,a dwyn i’m heinioes niwed.
7 A ddiangant hwy? Duw tâl y pwyth,dod iddynt ffrwyth f’enwiredd:Disgyn y bobloedd yn dy lid,Duw felly bid eu diwedd.
8 Duw rhifaist bob tro ar fy rhod,fy nagrau dod i’th gostrel:Ond yw pob peth i’th lyfrau dia wneuthym i yn ddirgel?
9 Y dydd y llefwyf, gwn yn wirdychwelir fy ngelynion:Am fod drosof fy Nuw â’i law,mi a wna y daw yn union.
10 Gorfoleddaf yngair fy Nuw,gair f’Arglwydd byw a folaf,
11 Yn Nuw y rhoi ymddiried siwr,beth a wnel gwr nid ofnaf.
12 O Dduw mae arnaf fi yn ddledllawer adduned ffyddlon,Ac mi a’i talaf hwynt yn rhyddi ti fy Arglwydd cyfion.