1 Dy ras, dy nawdd, (fy Nuw) ym’ dod,sef ynod ymddiriedaf,Nes myned heibio’r aflwydd hyndan d’edyn ymgyscodaf.
2 Ymddiried f’enaid ar Dduw sydd,ar Dduw drwy ffydd mi a alwaf,Ac a gwblhaf ei air yn iawn,sef cyfiawn yw’r Goruchaf.
3 O’r nef yr enfyn geidwad y’m,rhag nerth dyn llym a’m llyngcai:Enfyn fy Nuw ei nawdd a’i hedd,a’i lân wirionedd didrai.
4 Ym mysg y llewod mae fy oes,plant dynion poethfoes eiriau,Eu dannedd sydd fel gwayw neu saeth,a’i tafod gwaeth nâ’r cleddau.