1 Fy Nuw gwareda fi rhac brâda rhac twyll fwriad gelyn,Derbyn di drosof rhac y rhaia godai yn fy erbyn.
2 Ac ymddiffyn fi bybyroddiwrth weithredwyr camwedd,Achub fyfi rhac câs y byd,a rhac gwyr gwaedlyd hygledd.
3 Ac wele, maent hwy i’m cynllwyn,amranent ddwyn fy mywyd,Nid ar fy mai yr haeddais hyn,ond tynder gelyn gwaedlyd.
4 Duw rhedent hwy yn barod iawn,a dim ni wnawn iw herbyn.Edrych dithau, fy Arglwydd rhed,a thyred i’m hymddiffyn.
5 Ti Dduw y llu, Duw Israel,o deffro gwael enwiredd,I’r cenhedloedd na âd di’n rhâd,lle y gwnant drwy frâd eu trawsedd.
6 Maent hwy yn arfer gydâ’r hwyr,o’mdroi ar wyr o bobparth:A thrwy y ddinas clywch eu swn,un wedd a’r cwn yn cyfarth.
7 Wele maent a thafodau rhydd,awch cledd a fydd iw genau,Pwy meddant hwy all glywed hyn?ac a wna i’n herbyn ninnau.