8 Ond tydi fy Arglwydd a’m Duw,a’i gwel, ai clyw, a’i gwatwar:Am ben eu gwaith y chwerddi diy cenhedlaethi twyllgar.
9 Ti a attebi ei nerth ef,a’th law gref a’m hamddiffyn
10 Duw a’m rhagflaena innau chwip,caf weled trip i’m gelyn.
11 Na lâdd hwynt rhag i’m pobloedd ianghofi dy weithredoedd:Gwasgar, gostwng hwy yn dy nerthDuw darian prydferth lluoedd.
12 Am bechod eu tafodau hwy,a’i geiriau, mwyfwy balchedd,Telir iddynt ni ront air tegond celwydd, rheg, a choegedd.
13 Duw difa, difa hwynt i’th lid,a byth na fid un mwyach,Gwybyddant mai Duw Jago sydddrwy’r byd yn llywydd hyttrach.
14 Maent hwy yn arfer gydâ’r hwyro’mdroi yn llwyr o bobparth:A thrwy y ddinas clywch ei swn,un wedd a chwn yn cyfarth.