1 O Dduw, dydi a’n gwrthodaist,ar wasgar gyraist ymaith,O sorraist wrthym yn ddi gel,tro attom, dychwel eilwaith.
2 Dychrynaist di y ddaiar gron,a holltaist hon yn ddrylliau,Cans o’th lid ti siglo y mae,iachâ, a chae ei briwiau.
3 Dangosaist i’th elynion dio bwys caledi ormod:A’r ddiod a roist yn eu min,oedd megis gwin madrondod.
4 Rhoddaist faner, er hyn i gyd,i bawb o’r byd a’th ofnant,I faneru drwy dy air gwir,dros lu y tir lle y trigant:
5 Fel y gwareder drwy lân hwyl,bob rhai o’th anwyl ddynion.O achub hwynt â’th law ddeau,a gwrando finnau’n ffyddlon.
6 Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duw,llawen yw fy nghyfamod,Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn,mesuraf ddyffryn Succod.
7 Myfi biau y ddwy dref tad,sef Eilead, a Manasse,Ephraim hefyd yw nerth fy mhen,a Juda wen f’anneddle.