3 Dangosaist i’th elynion dio bwys caledi ormod:A’r ddiod a roist yn eu min,oedd megis gwin madrondod.
4 Rhoddaist faner, er hyn i gyd,i bawb o’r byd a’th ofnant,I faneru drwy dy air gwir,dros lu y tir lle y trigant:
5 Fel y gwareder drwy lân hwyl,bob rhai o’th anwyl ddynion.O achub hwynt â’th law ddeau,a gwrando finnau’n ffyddlon.
6 Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duw,llawen yw fy nghyfamod,Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn,mesuraf ddyffryn Succod.
7 Myfi biau y ddwy dref tad,sef Eilead, a Manasse,Ephraim hefyd yw nerth fy mhen,a Juda wen f’anneddle.
8 Ym Moab ymolchi a wnaf,dros Edom taflaf f’esgid:A chwardded Palestina gaeth,a’i chwerthin aeth yn rhybrid.
9 Duw, pwy a’m dwy i’r ddinas gref?pwy a’m dwg i dref Edom?