1 Erglyw (o Dduw) fy llefain i,ac ar fy ngweddi gwrando:
2 Rhof lef o eitha’r ddaiar gron,a’m calon yn llysmeirio.Dwg fi i dollgraig uwch na mi,ac iddi bydd i’m derbyn.
3 Cans craig o obaith, twr difost,y’m fuost rhag y gelyn.
4 O fewn dy Babell y bydd byth,fy nrigfan dilyth dedwydd:A’m holl ymddiried a fyn fodynghysgod dy adenydd.