2 Duw yw fy nghraig, a’m unig nerth,ac ymadferth fy einioes.Ac am hyn drwy ymddiffyn hirmi ni’m ysgogir eisoes.
3 Ba hyd y mae’n eich bryd barhau,i fwrw eich maglau aflwydd,Lleddir chwi oll: gwthir yn llwyrfel magwyr ar ei gogwydd.
4 Ymgasglent, llunient gelwydd mawr,iw roi i lawr o’i fowredd:Ar eu tafodau rhoi benditha melldith dan ei dannedd.
5 Fy enaid dod (er hyn i gyd)ar Dduw dy fryd yn ddyfal,Ynto gobeithiaf fi er hyn,efo a’m tyn o’m gofal.
6 Sef craig ymddiffyn yw ef ym’,fy’ nhwr, a grym fy mywyd:Am hynny y credaf yn wirna’m mawr ysgogir ennyd.
7 Yn Nuw yn unig mae i gyd,fy iechyd, a’m gogoniant,Fy nghraig yw, a’m cadernid maith,a’m gobaith yn ddilyssiant.
8 Gobeithiwch yntho: gar ei frontywelltwch galon berffaith,Ac ymddiriedwch tra foch byw:a dwedwch, Duw yw’n gobaith.