1 O Arglwydd Dduw, erglyw fy llef,a chlyw o’r nef fi’n erfyn:O Dduw cadw fy einioes iy sydd yn ofni’r gelyn.
2 A chuddia fi dros ennyd bachrhag cyfrinach y rhai drwg:A rhag terfysg y rhai sy’n gwau,i wneuthur cammau amlwg.
3 Hogi tafodau fel y cledd,a dwedyd bustledd ddigon,Saethant ergydion i’m syrhau,a’r rhai’n oedd eiriau chwerwon.
4 I saethu’n ddirgel bigau dur,yn erbyn pur ei galon,Yn ddisymwth heb ofni neb,a thrwy gasineb creulon.
5 Ymgryfhânt hwy yngwaith y fall,gan guddio’n gall eu rhwydau,Yna y dwedant pwy a’n gwelyn bwrw dirgel faglau?