5 Duw’n ceidwad attebi i nio’th ofni i’th gyfiownedd,Holl obaith wyd drwy’r ddaiar hon,a’r mor cynhyrfdon rhyfedd.
6 Hwn a siccrhâ bob uchel frynâ’i wregys yn gadernyd.
7 Hwn a ostega’r mor, a’r don,a rhuad eigion enbyd.
8 A holl breswylwyr eithaf bydsy’n ofni’ gyd d’arwyddion,I ti gan forau a chan hwyr,y canant laswyr ffyddlon.
9 Dyfrhau y ddaiar sech yr wyd,afon Duw llanwyd drosti,Darperaist lifddyfr rhyd ei llawriw thramawr gyfoethogi.
10 Pob rhych yr wyd yn ei ddyfrhau,a’i chwysau’r wyd iw gostwng.A’i rhoi ym mwyd mewn cafod wlith,iw chnwd rhoi fendith deilwng.
11 Coroni’r ydwyd ti fal hyny flwyddyn â’th ddaioni,Y ffordd hyn a’r modd (Duw fy ner)diferaist frasder arni.