1 Ymgyfoded un Duw ein Ner,gwasgarer ei elynion:Un drygddyn honynt nac arhoed,o’i flaen foed ei gaseion.
2 Os chwalu mwg mewn gwynt sy hawdd,os tawdd cwyr wrth eiriasdan,Fel hynny o flaen Duw (yn wir)yr enwir a ddiflannan.
3 Ond llawenycher ger bron Duwy cyfion, iw orfoledd:A'i hyfrydwch hwyntwy a fyddyn llawenydd cyfannedd.
4 Cenwch, a molwch enw Duw,sef hwn yw uwch y nefoeddYn marchogaeth, megis ar farch,iw enw rhowch barch byth bythoedd.
5 A gorfoleddwch gar ei fron,Duw tirion, tâd ymddifaid.Ac i’r gweddwon mae’n farnwr dayn ei bryswylfa gannaid.