14 Hon, pan wasgarodd Duw yn chwyrnbob cedyrn o’i gaseion,Oedd mor ddisgleirwych, ac mor wenn,ac eira’ar ben bryn Salmon.
15 Mynydd Duw (sef Sion) y syddfel Basan fynydd tirion:Mynydd Basan uchel ei gribcyffelib yw i Sion.
16 Chwychwi fynyddoedd cribog pamy bwriwch lam mewn cyffro?Duw ar Seion ei serch a roes,lle myn ef eisoes drigo.
17 Rhif ugain mil o filoedd ywangylion Duw mewn cerbyd:Ynghyssegr Sinai y bu ei wlith,bydd Duw iw plith hwy hefyd.
18 I’r uchelder y derchefaist,a chaethgludaist gaethiwed,Cymraist, dodaist ddoniau, Duw Ion,i ddynion oedd ddiniwed.
19 Bendigaid fyth fo’r Arglwydd mauam ddoniau ei ddaioni.A’i iechydwriaeth i ni’n llwytho berffrwyth ei haelioni.
20 Efe ei hun yw’n Duw ni i gyd,sef Duw ein iechyd helaeth,Drwy’r Arglwydd Dduw cawn yn ddi swrthddiangc oddiwrth farwolaeth.