17 Rhif ugain mil o filoedd ywangylion Duw mewn cerbyd:Ynghyssegr Sinai y bu ei wlith,bydd Duw iw plith hwy hefyd.
18 I’r uchelder y derchefaist,a chaethgludaist gaethiwed,Cymraist, dodaist ddoniau, Duw Ion,i ddynion oedd ddiniwed.
19 Bendigaid fyth fo’r Arglwydd mauam ddoniau ei ddaioni.A’i iechydwriaeth i ni’n llwytho berffrwyth ei haelioni.
20 Efe ei hun yw’n Duw ni i gyd,sef Duw ein iechyd helaeth,Drwy’r Arglwydd Dduw cawn yn ddi swrthddiangc oddiwrth farwolaeth.
21 Duw yn ddiammau a dyrr ben,a thalcen ei elynion:A choppa walltog rhai a foyn rhodio mewn drwg creulon.
22 Dygaf fy mhobloedd (meddai ef)hyd adref fel o Basan:A dygaf hwynt iw hol drachefn,fel o’r mor donlefn allan.
23 Fel y gwlychech ditheu dy draedyn llif gwaed dy ddigassau,Ac y llyfo dy gwn heb gely gwaed a ddel o’i briwiau.