26 Clodforwch Dduw hynny sydd ddaym mhob cyn’lleidfa ddiwael:A chlodforwch yr Arglwydd Ion,chwi sydd o ffynnon Israel.
27 Doed Benjamin y llywydd bach,doed bellach dugiaid Juda,Doed Nephtali, a Zabulon,a’i tywysogion yna.
28 Dy Dduw a drefnodd i ti nerth,a’i law sydd brydferth geidwad,Duw cadarnhâ etto yn faitharnom ni waith dy gariad.
29 Er mwyn Caersalem adail deg,rhydd cedyrn anrheg yty.
30 Difetha dyrfa y gwaywffyn,a’r rhai a fyn ryfely.Dewr fel teirw, nwyfus fel lloe,y rhei’ni a roe yr arian:Delont i’r iawn: tyn nerth a nwy’a gostwng hwy yn fuan.
31 Y pendefigion o’r Aipht drawa ddaw, ac Ethiopia:At Dduw yn brysur i roi rhodd,ac aberth gwirfodd yna.
32 Holl dyrnasoedd y ddaiar lawr,i Dduw mawr cenwch foliant,Cenwch, cenwch ei glod yn rhwydd,sef Arglwydd y gogoniant.