4 Cenwch, a molwch enw Duw,sef hwn yw uwch y nefoeddYn marchogaeth, megis ar farch,iw enw rhowch barch byth bythoedd.
5 A gorfoleddwch gar ei fron,Duw tirion, tâd ymddifaid.Ac i’r gweddwon mae’n farnwr dayn ei bryswylfa gannaid.
6 Duw a wna rai mewn ty’n gytun,ei hun mae’n gollwng gefyn,Ac yn rhoi trigfan mewn tir crâs,i ddynion atcas cyndyn.
7 Pan aethost (Dduw) o flaen dy lu,dy daith a fu drwy ddrysni.
8 Y ddaiar crynodd a flaen Duw,a’r nef rhoes amryw ddefni.Ac felly Sinai o flaen Duw,sef (unduw Israel howddgar)
9 Ar d’etifeddiaeth hidlaist law,i ddiflinaw y ddaiar.
10 Gwrteithiast hon, dy bobloedd disydd ynthi yn preswylio:Oth râd darperaist Dduw i’r tlawd,i gael digondawd yno.