8 Y ddaiar crynodd a flaen Duw,a’r nef rhoes amryw ddefni.Ac felly Sinai o flaen Duw,sef (unduw Israel howddgar)
9 Ar d’etifeddiaeth hidlaist law,i ddiflinaw y ddaiar.
10 Gwrteithiast hon, dy bobloedd disydd ynthi yn preswylio:Oth râd darperaist Dduw i’r tlawd,i gael digondawd yno.
11 Yr Arglwydd Dduw a roddai’r gair,mawr mintai’r cantoressau:
12 Cilient gedyrn: gweiniaid arhont,yr ysbail rhont yn rhannau.
13 Pes ymdroech mewn parddu a llwch,chwi a fyddwch fel y glommen:A’i phlu yn aur ac arian teg,yn hedeg is yr wybren.
14 Hon, pan wasgarodd Duw yn chwyrnbob cedyrn o’i gaseion,Oedd mor ddisgleirwych, ac mor wenn,ac eira’ar ben bryn Salmon.