1 Achub fi Dduw (y gwr a’m gwnaeth)tros f’enaid daeth llif-ddyfr-loes,
2 Yr wyf mewn dyfnder tom ynglyn,heb le i ’mddiffyn f’einioes.O’r dyfnder daethym fal ar fawdd,a’r ffrwd a lifawdd uchod:
3 Sychodd fy ngheg, blinodd fy llais,â’m llygaid pellais ganfod.
4 A hyn wrth ddisgwyl Duw a’i câs,wele fy nghâs yn amlachNâ’r gwalld ar ben fy nghoppa fry,a’r trowsion sy’n gadarnach.Y rhai celwyddog, taerion ynt,rhois iddynt beth ni chefais.
5 Adwaenost (Dduw) f’ynfydrwydd mau,a’m beiau fi ni chuddiais.
6 O’m plegid i dim gwarth ni chânty rhai a goeliant arnad,Na âd (Dduw’r lluoedd) fefl na thraisi’r rhai a ymgais attad.