6 O’m plegid i dim gwarth ni chânty rhai a goeliant arnad,Na âd (Dduw’r lluoedd) fefl na thraisi’r rhai a ymgais attad.
7 (Duw Israel) sef er dy fwyn,yr wyf yn dwyn gwarthrudd-deb:A thrwy gywilydd ymarhois,mewn chwys y tois fy wyneb.
8 I bobl dieithr myfi, (gwn pa’m)i blant fy mam fel estron.
9 A’m fod fy serch a’m sel i’th dyi’m hysu hyd fy nghalon.Cans cabl y rhai a’th gablant diar f’ucha i mae’n disgyn.
10 Fy nagrau cystudd, a’m hun-pryd,ynt warth i gyd i’m herbyn.
11 A phan wisgwn i liain sach,bum ddiystyrach lawer,
12 Bum chwedyl drws i gryf a thlawd,i’r meddw yn wawd iw harfer.