9 A’m fod fy serch a’m sel i’th dyi’m hysu hyd fy nghalon.Cans cabl y rhai a’th gablant diar f’ucha i mae’n disgyn.
10 Fy nagrau cystudd, a’m hun-pryd,ynt warth i gyd i’m herbyn.
11 A phan wisgwn i liain sach,bum ddiystyrach lawer,
12 Bum chwedyl drws i gryf a thlawd,i’r meddw yn wawd iw harfer.
13 Ond f’Arglwydd Dduw, gwnaf attad tify ngweddi yn amserol.O gwrando fi i’th wirfawr hedd,ac i’th wirionedd grasol.
14 Duw, gwared fi, gwna fi’n rhyddo’r dom y sydd i’m suddo,Sef caseion, dyfroedd dyfnion,a mi nid ofnaf gyffro.
15 Na lifed dwfr drosof yn ffrwd,na’m llynced amrwd ddyfnder,Na chaued pydew arnaf chwaith,mo’i safn diffaith ysceler.