13 Ofer iawn fu i mi warhau,a llwyr lanhau fy nghalon:Golchi fy nwylo, caru gwir,a bod yn hir yn gyfion:
14 Cael fy maeddu ar hyd y dydd:ond trwstan fydd uniondeb,Os y borau, ac os pryd nawn,myfi a gawn wrthwyneb.
15 Hyn os dwedwn, a feddyliwn,o ryw feddalaidd ammau,Wele, a’th blant di y gwnawn gam,i ddwyn un llam a minnau.
16 Pan geisiwn ddeall hyn yn llwyr,o nerth fy synwyr ddynol,Hynny i’m golwg i oedd flin,nes cael rhyw rin ysprydol.
17 Ond pan euthym i gysegr Duw,lle cefais amryw olau,Yna deellais i pa weddy bydd eu diwedd hwythau.
18 Gwybum i ti eu gosod hwy,lle caent lam mwy’n y diwedd,Sef mewn lle llithrig rhwydd-gwymp trwch,anialwch anghyfannedd:
19 Ond gwedi dodaist iddynt wth,disymmwth y pallasant,Mynd o’r byd heb na lliw na llun,o’i hofn eu hun darfyddant.