22 Nas deallaswn hyn yn gynt,bum ffol un hynt ac eidion.
23 Er hyn etto bum gydâ thi,lle i’m twysi yn ddilysiant
24 Wrth fy llaw ddeau: wedi hynfy nerbyn i gogoniant.
25 Pa’m? pwy (o Dduw) sydd gennyf fiond tydi yn y nefoedd?Dim ni ddymunwn gydâ thi,wrth weini daiar leoedd.
26 Fy nghalon i, a’m nerth, a’m cnawd,y sydd mewn palldawd beunydd,Ond tydi Dduw sydd ar fy rhan,a’m tarian yn dragywydd.
27 A elo ymhell oddiwrthyd ti,y rhei’ni gwnaent yn ddiffaith:Ac a buteiniant rhagot ti,y rhei’ni torrir ymaith.
28 Ond mi a ddof nesnes at fy Nuw,fy ngobaith yw i’m calon