4 Can nad oedd arnynt rwymau caethi gael marwolaeth ddynol,Lle maent yn byw yn heini hyf,yn iraidd gryf ddigonol.
5 Ac ni ddoe arnynt lafur blinhyd y bawn i’n eu deall,Na dim dialedd, na dim gwyn,fel y doe ar ddyn arall.
6 Am hynny syth maent yn ymddwyn,fel o fewn cadwyn balchder:A gwisgant am danynt yn dynn(megis dillad n) drowsder.
7 A’i llygaid hwynthwy wrth dewhaudoent yn folglymmau drosodd:A’i golud hwy, er hyn o wyn,uwch meddwl dyn a dyfodd.
8 Treuthu eu trowsder, bod yn dynn,a bostio hyn ar wasgar,
9 Egori safn at wybren fry,a thafod cry’ drwy’r ddaear.
10 Am hyn rhai o’i bobl ef â chwanta ymddychwelant yma,Yn gweled y dwfr yn loyw lâna thybio y cân eu gwala.