7 A’i llygaid hwynthwy wrth dewhaudoent yn folglymmau drosodd:A’i golud hwy, er hyn o wyn,uwch meddwl dyn a dyfodd.
8 Treuthu eu trowsder, bod yn dynn,a bostio hyn ar wasgar,
9 Egori safn at wybren fry,a thafod cry’ drwy’r ddaear.
10 Am hyn rhai o’i bobl ef â chwanta ymddychwelant yma,Yn gweled y dwfr yn loyw lâna thybio y cân eu gwala.
11 Cans ymresymmant hwn yn fyw,pa’m? ydyw Duw yn canfodPwy sydd yn ddrwg, a phwy sy’n dda?ydyw’r gorucha’n gwybod?
12 Wele y drygddyn mwya’i chwantcaiff fwyaf llwyddiant gwastad:Yn casglu golud a mawr dda,hwnnw sydd fwya’i godiad.
13 Ofer iawn fu i mi warhau,a llwyr lanhau fy nghalon:Golchi fy nwylo, caru gwir,a bod yn hir yn gyfion: