13 Rhoi dwfr y mor yn ddau dwfr crych,a’r llawr yn sych i drammwy.
14 Y dydd mewn niwl, y nos a thân,tywysai’n lân ei bobloedd:
15 Holldi’r creigiau a’i troi’n llynniau,a llenwi ei lu a dyfroedd.
16 Er tynnu dwfr o’r garreg lâs,er llithro’n loyw frâs ffrydau:
17 Yn yr anialwch digient Dduw,chwanegent amryw feiau.
18 Yn y diffaithwch profent Dduw,oes fwyd i fyw? meddylient:
19 A all Duw gael i’n ymma fwyd,mewn cyfryw lochwyd? dwedent.