14 Y dydd mewn niwl, y nos a thân,tywysai’n lân ei bobloedd:
15 Holldi’r creigiau a’i troi’n llynniau,a llenwi ei lu a dyfroedd.
16 Er tynnu dwfr o’r garreg lâs,er llithro’n loyw frâs ffrydau:
17 Yn yr anialwch digient Dduw,chwanegent amryw feiau.
18 Yn y diffaithwch profent Dduw,oes fwyd i fyw? meddylient:
19 A all Duw gael i’n ymma fwyd,mewn cyfryw lochwyd? dwedent.
20 Er taro’r graig a rhedeg dwr,yn ffrydau, cyflwr diball:A eill efe roi i’n fara’ a chig,i’n cadw yn ddiddig ddiwall?