2 Mewn diharebion, i barhau,fy ngenau a egoraf:A hen ddamhegion oedd ar hydy cynfyd a ddangosaf.
3 Y rhai a glywsom gynt eu bod,ac ym yn gwybod hefyd,Ac a fynedodd yn ddiau,ein tadau er y cynfyd.
4 Heb gel mynegwn ninnau’n ffraeth,hyn iw hiliogaeth hwythau:Canmolwn Dduw i’r oes a ddel,ei nerth a’i uchel wrthiau.
5 Felly gorchmynnodd ef fod cof,yn Jagof: ac i’r hynafYn Israel ddysgu iw blant,ogoniant y Goruchaf.
6 Fel y gwypid o oes i oes,y rhoes ef ei dystiolaeth:O Dâd i fab, o fâb i wyr,i gadw llwyr wybodaeth.
7 Gobeithio’n Nuw, cofio ei waith,y sydd mal rhaith eneidiol:I gael cadw ei orchymmyn,rhoes Duw’r wers hyn yn rheidiol,
8 Rhag ofn mynd o’r genhedlaeth hynyn gyndyn ac anufydd:A chalon wan, ac yspryd gwael,heb afael gyda’i llywydd.